Network Rail yn gwahodd trigolion i ddigwyddiadau galw heibio i ddarganfod mwy am y gwaith i atgyweirio llinell Dyffryn Conwy: ConwyValley1

Friday 21 Jun 2019

Network Rail yn gwahodd trigolion i ddigwyddiadau galw heibio i ddarganfod mwy am y gwaith i atgyweirio llinell Dyffryn Conwy

Region & Route:
Wales & Western: Wales & Borders
| Wales & Western

Mae Network Rail yn parhau â’r gwaith i atgyweirio’r difrod sylweddol i linell Dyffryn Conwy ac yn gwahodd trigolion i gael gwybod mwy mewn digwyddiadau galw heibio cymunedol a gynhelir yr wythnos nesaf.

Cafodd y llinell, sy’n rhedeg rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog, ei chau ym mis Mawrth yn dilyn llifogydd difrifol a achoswyd gan Storm Gareth. Ers cau’r llinell dros dro, mae timau wedi bod yn gweithio’n galed i atgyweirio’r difrod sylweddol. Mae’r gwaith wedi cynnwys atgyweiriadau sylweddol ar chwe milltir o drac, argloddiau, deg cwlfert, wyth croesfan wastad a gorsaf Dolgarrog.

Bydd y llinell yn ail-agor ym mis Gorffennaf, cyn yr Eisteddfod. Hyd yma, mae ein peirianwyr wedi symud ymaith 8,000 o dunelli o ddeunyddiau tirlithriad, a fydd yn cael eu hailgylchu, ac wedi gosod tua 7500 o dunelli o ‘arfogaeth greigiau’ i wella cryfder y llinell reilffordd. Hefyd mae Network Rail wedi gweithio mewn partneriaeth agos â Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau’r trwyddedau angenrheidiol ac i ymchwilio y datrysiadau ar gyfer gwella gwydnwch Dyffryn Conwy yn y dyfodol.

Mae Network Rail Cymru a’r Gororau yn cynnal digwyddiadau galw heibio cymunedol ar ddydd Mercher 26 Mehefin yn swyddfa Cyngor Tref Ffestiniog, 5 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES rhwng 3pm a 6.30pm ac ar ddydd Iau 27 Mehefin yn Neuadd Gynadledda a Chyfarfod Glasdir, Llanrwst, LL26 0DF, rhwng 3pm a 6.30pm.

Bydd tîm Network Rail wrth law i roi diweddariad ar y rhaglen, a bydd cyfle i’r cyhoedd ofyn cwestiynau.

Dywedodd Kevin Collins, cyfarwyddwr darparu, Network Rail Cymru a’r Gororau: “Hoffem ddiolch i’r teithwyr a’r gymuned leol, lle mae cau llinell Dyffryn Conwy wedi effeithio arnynt, am eu hamynedd parhaus wrth i’r rhaglen helaeth hon o atgyweiriadau fynd rhagddi.

“Deallwn bwysigrwydd y rheilffordd hon, ac mae ein timau wedi bod yn gweithio’n galed iawn er mwyn inni allu ail-agor y llinell cyn gynted ag sy’n bosibl.

 “Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid, Trafnidiaeth Cymru, i gadw teithwyr i symud trwy drefnu bysiau yn lle trenau tra bo’r rheilffordd ar gau. Rwy’n annog unrhyw un sydd eisiau cael gwybod mwy am y rhaglen barhaus o atgyweiriadau i ddod i un o’r sesiynau galw heibio sydd ar y gweill.”

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Hoffem ddiolch i’n holl gwsmeriaid ac i’r gymuned leol am eu hamynedd parhaus wrth inni weithio gyda’n partneriaid, Network Rail, i atgyweirio’r difrod ar linell Dyffryn Conwy. Gofynnwn i’n holl gwsmeriaid edrych ar ein gwefan i gael diweddariadau am deithio, a byddwn yn parhau i gadw pobl Cymru i symud trwy drefnu bysiau yn lle trenau. Mae’r digwyddiadau galw heibio’n gyfle gwych i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am yr atgyweiriadau, neu sydd ag unrhyw gwestiwn amdanynt.”

Yr wythnos ddiwethaf, bu Bwrdd Goruchwylio Llwybrau Cymru, a sefydlwyd i ddod â’r traciau a threnau’n agosach at ei gilydd ac i gynrychioli cwsmeriaid rheilffyrdd yng Nghymru a’r Gororau, ar ymweliad â’r safle i weld y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth atgyweirio’r llinell reilffordd.

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Goruchwylio Llwybrau Cymru, Margaret Llewellyn OBE: “Roedd yn drawiadol gweld faint o waith sydd wedi’i wneud eisoes i adfer y llinell reilffordd hanfodol hon. Roeddem hefyd wrth ein bodd i weld y gwaith cydnerthedd sydd wedi cael ei gynnwys yn y rhaglen atgyweirio ac edrychwn ymlaen at ail-agor y llinell y mis nesaf.”

Contact information

Passengers / community members
Network Rail national helpline
03457 11 41 41

Latest travel advice
Please visit National Rail Enquiries

Journalists
Catrin Hallett
catrin.hallett@networkrail.co.uk

About Network Rail

We own, operate and develop Britain's railway infrastructure; that's 20,000 miles of track, 30,000 bridges, tunnels and viaducts and the thousands of signals, level crossings and stations. We run 20 of the UK's largest stations while all the others, over 2,500, are run by the country's train operating companies.

Usually, there are almost five million journeys made in the UK and over 600 freight trains run on the network. People depend on Britain's railway for their daily commute, to visit friends and loved ones and to get them home safe every day. Our role is to deliver a safe and reliable railway, so we carefully manage and deliver thousands of projects every year that form part of the multi-billion pound Railway Upgrade Plan, to grow and expand the nation's railway network to respond to the tremendous growth and demand the railway has experienced - a doubling of passenger journeys over the past 20 years.

Follow us on Twitter: @networkrail
Visit our online newsroom: www.networkrailmediacentre.co.uk