Network Rail yn gwahodd trigolion Blaenau Ffestiniog i galw heibio i ddarganfod mwy am waith atgyweirio Llinell Dyffryn Conwy: ConwyValley-2

Tuesday 30 Apr 2019

Network Rail yn gwahodd trigolion Blaenau Ffestiniog i galw heibio i ddarganfod mwy am waith atgyweirio Llinell Dyffryn Conwy

Region & Route:
Wales & Western: Wales & Borders
| Wales & Western

Mae gwaith Network Rail i atgyweirio’r difrod sylweddol i linell Dyffryn Conwy ar y gweill.

Cafodd y llinell, sy’n rhedeg rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog, ei chau ar 16 Mawrth oherwydd llifogydd helaeth a achoswyd gan Storm Gareth.

Ers i’r llinell gau, mae peirianwyr arbenigol wedi cynllunio rhaglen waith a fydd yn golygu y bydd y llinell yn ail-agor yn yr haf. Mae’r timau wedi bod yn brysur dylunio cwlfertau llifogydd, adeiladu argloddiau, cael gwared o ddeunydd wedi'i olchi allan ac adnewyddu croesfannau, i adfer y trac yn ddiogel.

Disgwylir i’r llinell ail-agor yn yr haf, gyda’r rhan rhwng Llandudno a Llanrwst yn agor yn gynnar yn yr haf mewn pryd am yr Eisteddfod.

Mae Network Rail Cymru a’r Gororau yn cynnal cyfarfod cymunedol ar ddydd Iau 2 yn Siambrau Cyngor Tref Ffestiniog, 5 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES o 16:00 i 19:00 i bobl sydd â diddordeb am ddysgu mwy am y gwaith atgyweirio arfaethedig. Bydd peirianwyr ar gael i roi diweddariad ar y rhaglen, a bydd cyfle i’r cyhoedd ofyn cwestiynau.

Dywedodd Bill Kelly, rheolwr gyfarwyddwr llwybrau Network Rail Cymru a’r Gororau: “Rydyn ni’n ymddiheuro i deithwyr a’r gymuned leol sydd wedi cael ei heffeithio gan cau y Llinell Dyffryn Conwy.

“Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd y rheilffordd hon, ac rwyf wedi gweld am fy hunan y llanastr mae’r difrod wedi’i achosi yn yr ardal leol. Rydyn ni’n disgwyl agor y llinell rhwng Llandudno a Llanrwst mewn pryd am yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir yn yr haf. 

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid, Trafnidiaeth Cymru, i gadw teithwyr i symud trwy drefnu bysiau yn lle trenau tra bo’r llinell ar gau.  Rwy’n annog unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am ein gwaith atgyweirio i ymuno â thîm y prosiect yn y sessiwn galw heibio ar ddydd Iau 2 Mai.

Ychwanegodd Lee Robinson, cyfarwyddwr datblygu ar gyfer Gogledd Cymru gyda Thrafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni’n deall pwysigrwydd Llinell Dyffryn Conwy ac yn darparu ffyrdd eraill o deithio i sicrhau ein bod ni’n cadw pobl Cymru i symud.

“Rydyn ni’n cydweithio gyda Network Rail i ddelio â’r difrod a achoswyd gan y storm ac i adfer y gwasanaeth.  Rwy’n cynghori ein cwsmeriaid i gyd i edrych am ddiweddariadau ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.”   

Contact information

Passengers / community members
Network Rail national helpline
03457 11 41 41

Latest travel advice
Please visit National Rail Enquiries

Journalists
Catrin Hallett
catrin.hallett@networkrail.co.uk

About Network Rail

We own, operate and develop Britain's railway infrastructure; that's 20,000 miles of track, 30,000 bridges, tunnels and viaducts and the thousands of signals, level crossings and stations. We run 20 of the UK's largest stations while all the others, over 2,500, are run by the country's train operating companies.

Usually, there are almost five million journeys made in the UK and over 600 freight trains run on the network. People depend on Britain's railway for their daily commute, to visit friends and loved ones and to get them home safe every day. Our role is to deliver a safe and reliable railway, so we carefully manage and deliver thousands of projects every year that form part of the multi-billion pound Railway Upgrade Plan, to grow and expand the nation's railway network to respond to the tremendous growth and demand the railway has experienced - a doubling of passenger journeys over the past 20 years.

Follow us on Twitter: @networkrail
Visit our online newsroom: www.networkrailmediacentre.co.uk