Network Rail yn dechrau’r gwaith adfer mwyaf ar Draphont Abermaw yn ei hanes: Barmouth Viaduct 3

Tuesday 26 May 2020

Network Rail yn dechrau’r gwaith adfer mwyaf ar Draphont Abermaw yn ei hanes

Region & Route:
Wales & Western: Wales & Borders
| Wales & Western

Bydd gwaith trwsio gwerth £25 miliwn yn cael ei wneud ar Draphont Abermaw er mwyn ei gwarchod ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr yn y dyfodol.

Bydd y gwaith ar y strwythur rhestredig Gradd II* yn cynnwys ailosod nifer fawr o rannau pren a metel y draphont, yn ogystal ag ailosod y trac cyfan.

Dywedodd Bill Kelly, Cyfarwyddwr Llwybrau Cymru a’r Gororau Network Rail:

“Traphont Abermaw yw un o’r strwythurau enwocaf a mwyaf adnabyddus yng Nghymru a’r unig bont bren fawr sy’n dal i gael ei defnyddio.

“Rydym yn buddsoddi £25 miliwn i wneud y gwaith trwsio  mwyaf yn hanes y bont, gan warchod ein treftadaeth ddiwydiannol a sicrhau y gall y cysylltiad trafnidiaeth hanfodol hwn barhau i wasanaethu’r bobl leol ac ymwelwyr, pan ddaw’r amser, am genedlaethau i ddod.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Cadw, Cyngor Sir Gwynedd a rhanddeiliaid eraill ers nifer o flynyddoedd i ddatblygu ein cynlluniau. Hoffwn sicrhau’r gymuned leol ein bod wedi addasu’r cynlluniau hyn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni’n dilyn canllawiau’r Llywodraeth yn ystod y pandemig Covid-19.” 

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Mae Traphont Abermaw yn rhan eiconig o dreftadaeth rheilffyrdd Cymru ac rwy’n falch ei bod yn elwa ar ran o’r buddsoddiad gwerth £2 biliwn gan Lywodraeth y DU yn rhwydwaith Cymru a’r Gororau er mwyn ei gwarchod a’i thrwsio. Bydd y gwaith trwsio gan Network Rail yn diogelu’r cysylltiad pwysig rhwng Machynlleth a Phwllheli ac yn gwarchod rhan boblogaidd o’r llwybr ar hyd arfordir Cymru.

“Ynghyd â’r buddsoddiad gwerth £8.5 biliwn yn nhrenau Intercity Express Great Western Railway a thrydaneiddio’r llinell rhwng Llundain Paddington a de Cymru, a diweddariadau i reilffyrdd gogledd Cymru, mae Llywodraeth y DU yn sicrhau gwelliannau i seilwaith y rheilffyrdd ac yn gwella teithiau i deithwyr ym mhob rhan o Gymru.”

Dywedodd  Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Rwyf wedi gweld drosof fy hun pa mor bwysig yw’r draphont i’r gymuned, felly mae’r buddsoddiad hwn i’w groesawu. Yn ogystal â bod yn gysylltiad trafnidiaeth pwysig, mae’n seilwaith sy’n arwyddocaol yn hanesyddol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau hyn yn symud yn eu blaen.”

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Rwyf wrth fy  modd bod Network Rail yn gwneud y buddsoddiad mawr hwn er mwyn diogelu dyfodol y strwythur eiconig hwn a Llinell Arfordir y Cambrian. Daw’r buddsoddiad hwn ochr yn ochr â’n buddsoddiad ninnau mewn trawsnewid gwasanaethau ledled rhwydwaith Cymru a’r Gororau, gan gynnwys trenau newydd sbon a gwasanaethau ychwanegol ar gyfer Llinell Arfordir y Cambrian yn y blynyddoedd i ddod.  

“Rydym ni’n cydweithio er mwyn sicrhau y bydd cyn lleied o darfu ag sy’n bosibl i’n teithwyr tra bydd y gwaith yn cael ei wneud. Oherwydd y bydd effaith ar ein gwasanaethau, mae’n bwysig i unrhyw un sy’n teithio ar Linell y Cambrian wirio manylion ei daith cyn cychwyn arni, rhag ofn y caiff ein hamserlenni eu newid. Gallwch wneud hyn trwy fynd i wefan Trafnidiaeth Cymru www.tfwrail.wales neu ddefnyddio ap Trafnidiaeth Cymru.”

Dywedodd Liz Saville Roberts AS:

“Rwy’n falch bod Network Rail wedi pennu amserlen bendant ar gyfer adfer y strwythur eiconig hwn, yr unig bont reilffordd bren fawr sy’n dal i gael ei defnyddio heddiw.

“Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn diogelu Traphont Abermaw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan gryfhau cysylltiadau ymysg cymunedau ar hyd arfordir y Cambrian a gwasanaethu fel cysylltiad twristiaeth hollbwysig.

“Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gydweithredu effeithiol rhwng yr asiantaethau partner a rhanddeiliaid lleol. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen.”

Er mwyn lleihau effaith y gwaith, mae wedi cael ei gynllunio’n ofalus iddo gael ei gwblhau dros dair blynedd - gan gau’r draphont o’r 19eg ganrif yn llawn am dri chyfnod byrrach, yn hytrach na’i chau unwaith am gyfnod hirach. Bwriedir ei chau am y tro cyntaf yn yr hydref eleni, pan fydd y gwaith o adfer y rhannau pren o’r bont yn dechrau. Bydd y gwaith paratoi yn dechrau ym mis Mehefin.

Mae Network Rail wedi addasu’r cynlluniau er mwyn sicrhau y gellir cyflawni’r gwaith yn ddiogel yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth.

Gwahoddir aelodau o’r gymuned leol i ddeialu i mewn i alwad gynadledda gyda thîm y prosiect er mwyn cael gwybod mwy am y gwaith a gofyn cwestiynau. Bydd yr alwad yn cael ei chynnal ar:

Nos Fercher 3 Mehefin am 6pm ar rif Rhadffôn 0800 012 1325 (cod cyfrin 591 166#)

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y prosiect yma: www.networkrail.co.uk/barmouth.

Ffeithiau am Draphont Abermaw

  • Saif ar linell Arfordir y Cambrian rhwng Pwllheli a Machynlleth, yn ardal Cyngor Sir Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri.​
  • Fe’i hadeiladwyd yn 1864 ar draws aber afon Mawddach.​
  • Rhestredig Gradd II*
  • Traphont Abermaw yw’r unig bont bren fawr sy’n dal i gael ei defnyddio
  • 820m yw ei hyd: 700m yn bren/120m yn fetel​
  • Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol â phont godi ar y pen gogleddol. Codwyd pont droi ddur yn lle honno yn 1900.

Contact information

Passengers / community members
Network Rail national helpline
03457 11 41 41

Latest travel advice
Please visit National Rail Enquiries

Journalists
Steven Crane-Jenkins
Media Relations Manager
Network Rail (Wales and Borders)
07732 643228
Steven.Crane-Jenkins@NetworkRail.co.uk

About Network Rail

We own, operate and develop Britain's railway infrastructure; that's 20,000 miles of track, 30,000 bridges, tunnels and viaducts and the thousands of signals, level crossings and stations. We run 20 of the UK's largest stations while all the others, over 2,500, are run by the country's train operating companies.

Usually, there are almost five million journeys made in the UK and over 600 freight trains run on the network. People depend on Britain's railway for their daily commute, to visit friends and loved ones and to get them home safe every day. Our role is to deliver a safe and reliable railway, so we carefully manage and deliver thousands of projects every year that form part of the multi-billion pound Railway Upgrade Plan, to grow and expand the nation's railway network to respond to the tremendous growth and demand the railway has experienced - a doubling of passenger journeys over the past 20 years.

Follow us on Twitter: @networkrail
Visit our online newsroom: www.networkrailmediacentre.co.uk