Llinell Dyffryn Conwy yn ailagor i deithwyr cyn yr Eisteddfod Genedlaethol: NetworkRail Griffiths

Monday 15 Jul 2019

Llinell Dyffryn Conwy yn ailagor i deithwyr cyn yr Eisteddfod Genedlaethol

Region & Route:
Wales & Western: Wales & Borders

Mae Network Rail a’i brif gontractwr, Alun Griffiths (Contractors) Ltd, yn gweithio gyda’i gilydd i ailagor llinell Dyffryn Conwy i deithwyr cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Bydd y rhan o’r llinell o Gyffordd Llandudno i Ogledd Llanrwst yn ailagor i deithwyr ar ddydd Iau 18 Gorffennaf a bydd gweddill y llinell yn ailagor ar ddydd Mercher 24 Gorffennaf.

Cafodd y llinell, sy’n rhedeg o Gyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog, ei chau ar 16 Mawrth oherwydd llifogydd sylweddol, a achoswyd gan gyfuniad o lanw uchel a system gwasgedd isel yn sgil storm Gareth.

Oherwydd y difrod helaeth, roedd angen gwaith atgyweirio sylweddol ar chwe milltir o drac, gorsaf Dolgarrog, deg croesfan wastad a naw o gwlfertau.

Ers cau’r llinell mae timau wedi symud ymaith deunyddiau tirlithriad, ailosod balast, ailwampio croesfannau gwastad, dylunio a gosod cwlfertau llifogydd ac adeiladu argloddiau, er mwyn adfer y trac yn ddiogel.

Bydd gorsaf Dolgarrog yn aros ar gau am y tro er mwyn gosod platfform newydd yn lle’r un a ddifrodwyd gan y llifogydd.

Yn ogystal â’r gwaith adfer mawr, mae Network Rail wedi cynyddu cyflymder y llinell trwy Faenan, ar y rhan rhwng Dolgarrog a Gogledd Llanrwst, o 30mya i 45mya.

Pan oedd y llinell ar gau, manteisiodd Network Rail ar y cyfle i gwblhau amrywiaeth o waith cynnal a chadw ac adnewyddu. Roedd hyn yn cynnwys adolygu’r terfyn cyflymder hwn, a osodwyd yn sgil llifogydd yn ystod y 1980au. Erbyn hyn mae terfyn cyflymder y llinell wedi’i gynyddu i 45mya unwaith eto, gan ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy i deithwyr.

Er mai gwaith brys oedd hwn, ymrwymodd Network Rail a Griffiths i ddefnyddio cyflenwyr lleol ar gyfer popeth o fariau atgyfnerthu (rebar) a choncrid i gyflenwyr bwyd, gan gynnwys sicrhau 9,500 o dunelli o arfogaeth greigiau a 3,000 o dunelli o falast o chwareli lleol.

Roedd cynaliadwyedd yn un o flaenoriaethau’r prosiect. Ailgylchwyd 91 y cant o’r deunyddiau tirlithriad a symudwyd o’r safle yn ystod y prosiect, ac ailddefnyddiwyd oddeutu 5,000 o dunelli o uwchbridd ar y safle.

Mae’r holl staff sy’n gweithio ar y prosiect yn gallu teithio i’r safle o fewn awr, ac mae’r holl lystyfiant a bonion coed wedi cael eu rhoi i gyfleuster ailgylchu lleol yn y Dyffryn i gael eu troi’n fiomas.

Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail, Cymru a’r Gororau: “Hoffem ddiolch i deithwyr a’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod y gwaith i atgyweirio’r difrod helaeth i linell Dyffryn Conwy.

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol i Gymru, ac wrth ein bodd y gallwn ailagor y llinell i deithwyr cyn y digwyddiad gwych hwn.

“Rydym wedi gweithio’n agos â’n partner, Griffiths, i gwblhau’r gwaith atgyweirio mawr hwn ar y llinell, a gyda Thrafnidiaeth Cymru, i gadw teithwyr i symud, gan ddarparu bysiau yn lle trenau pan oedd y llinell ar gau.”

Dywedodd Shaun Thompson, Cyfarwyddwr Rheilffyrdd Griffiths: “Rwyf wrth fy modd bod ein tîm yng ngogledd Cymru wedi cydweithio unwaith eto â Network Rail, er mwyn ailadeiladu ac ailagor llinell Dyffryn Conwy mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

“Cafodd y gwaith ei wneud mewn modd diogel a chynaliadwy. Rydym wedi cyflogi pobl leol, defnyddio cyflenwyr lleol ac wedi ailgylchu mwy na 90 y cant o’r deunydd llifogydd.

“Hoffem ddiolch i deithwyr a’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod y gwaith.”

Dywedodd Cyng. Philip C Evans, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy: “Mae hyn yn newyddion gwych a fydd yn cael eu croesawu gan holl ddefnyddwyr y rheilffordd yn yr ardal.

“Dylid llongyfarch Network Rail, ei staff proffesiynol a’i gontractwyr ar y gwaith ardderchog maen nhw wedi’i wneud i sicrhau bod y llinell ar agor mewn da bryd ar gyfer yr Eisteddfod yn Llanrwst.”

Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru: “Mae'n newyddion gwych bydd y llinell yn ailagor ar ôl misoedd o waith caled gan ein partneriaid yn Network Rail ac rydym yn edrych ymlaen i redeg gwasanaethau yno eto i'n cwsmeriaid.

“Mae llinell Dyffryn Conwy yn rhan hynod o bwysig o'n rhwydwaith, felly mae ei cholli i lifogydd am bedwar mis wedi bod yn ergyd chwerw.

“Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar gynllun trên helaeth ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau bod cludiant i'r digwyddiad yn rhedeg yn esmwyth.”

I ddathlu ailagor y llinell, mae Network Rail a Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cynnig taith ar drên stêm ar ddydd Sadwrn 3 Awst. Bydd tocynnau ar gyfer y trên, a fydd yn rhedeg o Gaer i Flaenau Ffestiniog, ar gael i’r cyhoedd eu prynu Dydd Llun 22 Gorffennaf. Bydd manylion am sut i brynu tocynnau ar gael yn fuan.

Contact information

Passengers / community members
Network Rail national helpline
03457 11 41 41

Latest travel advice
Please visit National Rail Enquiries

Journalists
Catrin Hallett
catrin.hallett@networkrail.co.uk

About Network Rail

We own, operate and develop Britain's railway infrastructure; that's 20,000 miles of track, 30,000 bridges, tunnels and viaducts and the thousands of signals, level crossings and stations. We run 20 of the UK's largest stations while all the others, over 2,500, are run by the country's train operating companies.

Usually, there are almost five million journeys made in the UK and over 600 freight trains run on the network. People depend on Britain's railway for their daily commute, to visit friends and loved ones and to get them home safe every day. Our role is to deliver a safe and reliable railway, so we carefully manage and deliver thousands of projects every year that form part of the multi-billion pound Railway Upgrade Plan, to grow and expand the nation's railway network to respond to the tremendous growth and demand the railway has experienced - a doubling of passenger journeys over the past 20 years.

Follow us on Twitter: @networkrail
Visit our online newsroom: www.networkrailmediacentre.co.uk