Llinell Dyffryn Conwy wedi ailagor i deithwyr cyn yr Eisteddfod Genedlaethol: NetworkRail Griffiths

Wednesday 24 Jul 2019

Llinell Dyffryn Conwy wedi ailagor i deithwyr cyn yr Eisteddfod Genedlaethol

Region & Route:
Wales & Western: Wales & Borders

Mae’r llinell, sy’n rhedeg o Gyffordd Llandudno i Ogledd Llanrwst, wedi ailagor yn llawn i deithwyr.

Mae Network Rail a’i brif gontractwr, Alun Griffiths (Contractors) Ltd, wedi gweithio gyda’i gilydd i ailagor llinell Dyffryn Conwy i deithwyr cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Cafodd y llinell ei chau ar 16 Mawrth oherwydd llifogydd sylweddol, a achoswyd gan gyfuniad o lanw uchel a system gwasgedd isel yn sgil storm Gareth.

Oherwydd y difrod helaeth, roedd angen gwaith atgyweirio sylweddol ar chwe milltir o drac, gorsaf Dolgarrog, deg croesfan wastad a naw o gwlfertau.

Ers cau’r llinell mae timau wedi symud ymaith deunyddiau tirlithriad, ailosod balast, ailwampio croesfannau gwastad, dylunio a gosod cwlfertau llifogydd ac adeiladu argloddiau, er mwyn adfer y trac yn ddiogel.

Bydd gorsaf Dolgarrog yn aros ar gau am y tro er mwyn gosod platfform newydd yn lle’r un a ddifrodwyd gan y llifogydd.

Yn ogystal â’r gwaith adfer mawr, mae Network Rail wedi cynyddu cyflymder y llinell trwy Faenan, ar y rhan rhwng Dolgarrog a Gogledd Llanrwst, o 30mya i 45mya.

Pan oedd y llinell ar gau, manteisiodd Network Rail ar y cyfle i gwblhau amrywiaeth o waith cynnal a chadw ac adnewyddu. Roedd hyn yn cynnwys adolygu’r terfyn cyflymder hwn, a osodwyd yn sgil llifogydd yn ystod y 1980au. Erbyn hyn mae terfyn cyflymder y llinell wedi’i gynyddu i 45mya unwaith eto, gan ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy i deithwyr.

Er mai gwaith brys oedd hwn, ymrwymodd Network Rail a Griffiths i ddefnyddio cyflenwyr lleol ar gyfer popeth o fariau atgyfnerthu (rebar) a choncrid i gyflenwyr bwyd, gan gynnwys sicrhau 9,500 o dunelli o arfogaeth greigiau a 3,000 o dunelli o falast o chwareli lleol.

Roedd cynaliadwyedd yn un o flaenoriaethau’r prosiect. Ailgylchwyd 91 y cant o’r deunyddiau tirlithriad a symudwyd o’r safle yn ystod y prosiect, ac ailddefnyddiwyd oddeutu 5,000 o dunelli o uwchbridd ar y safle.

Roedd yr holl staff oedd yn gweithio ar y prosiect yn gallu teithio i’r safle o fewn awr, ac mae’r holl lystyfiant a bonion coed wedi cael eu rhoi i gyfleuster ailgylchu lleol yn y Dyffryn i gael eu troi’n fiomas.

I ddathlu ailagor y llinell, mae Network Rail a Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cynnig taith ar drên stêm ar ddydd Sadwrn 3 Awst.

Mae tocynnau ar gyfer y trên, a fydd yn rhedeg o Gaer i Flaenau Ffestiniog, ar gael i’r cyhoedd eu prynu am £75 i ddychwelyd trwy Trafnidiaeth Cymru ar 0844 856 0688.

Dywedodd Bill Kelly, cyfarwyddwr llwybrau Network Rail, Cymru a’r Gororau: “Hoffem ddiolch i deithwyr a’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod y gwaith i atgyweirio’r difrod helaeth i linell Dyffryn Conwy.

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol i Gymru, ac wrth ein bodd y gallwn ailagor y llinell i deithwyr cyn y digwyddiad gwych hwn.

“Rydym wedi gweithio’n agos â’n partner, Griffiths, i gwblhau’r gwaith atgyweirio mawr hwn ar y llinell, a gyda Thrafnidiaeth Cymru, i gadw teithwyr i symud, gan ddarparu bysiau yn lle trenau pan oedd y llinell ar gau.”

Dywedodd Shaun Thompson, Cyfarwyddwr Rheilffyrdd Griffiths: “Rwyf wrth fy modd bod ein tîm yng ngogledd Cymru wedi cydweithio unwaith eto â Network Rail, er mwyn ailadeiladu ac ailagor llinell Dyffryn Conwy mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

“Cafodd y gwaith ei wneud mewn modd diogel a chynaliadwy. Rydym wedi cyflogi pobl leol, defnyddio cyflenwyr lleol ac wedi ailgylchu mwy na 90 y cant o’r deunydd llifogydd.

“Hoffem ddiolch i deithwyr a’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod y gwaith.”

Dywedodd James Price, CEO Trafnidiaeth Cymru: “Mae'n newyddion gwych bod Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ailagor ar ôl misoedd o waith caled gan ein partneriaid yn Network Rail ac mae'n wych y bydd ein gwasanaethau yn rhedeg yno eto i'n cwsmeriaid.

“Hoffwn ddiolch i'n cwsmeriaid am eu hamynedd yn ystod y cyfnod anodd hwn a diolch hefyd i'r holl staff sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y llinell yn cael ei hailagor mewn pryd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Fel un o brif noddwyr y digwyddiad eleni, mae Trafnidiaeth Cymru yn edrych ymlaen at ddarparu cludiant ar gyfer y digwyddiad yn Llanrwst a pharhau i gadw pobl Cymru i symud.”

Dywedodd Cyng. Philip C Evans, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffordd Dyffryn Conwy: “Mae hyn yn newyddion gwych a fydd yn cael eu croesawu gan holl ddefnyddwyr y rheilffordd yn yr ardal.

“Dylid llongyfarch Network Rail, ei staff proffesiynol a’i gontractwyr ar y gwaith ardderchog maen nhw wedi’i wneud i sicrhau bod y llinell ar agor mewn da bryd ar gyfer yr Eisteddfod yn Llanrwst.

“Mae'n newyddion gwych bod Network Rail yn nodi ailagor y llinell mewn ffordd arbennig a fydd hefyd yn nodi dechrau'r Eisteddfod yn Llanrwst.”

Contact information

Passengers / community members
Network Rail national helpline
03457 11 41 41

Latest travel advice
Please visit National Rail Enquiries

Journalists
Catrin Hallett
catrin.hallett@networkrail.co.uk

About Network Rail

We own, operate and develop Britain's railway infrastructure; that's 20,000 miles of track, 30,000 bridges, tunnels and viaducts and the thousands of signals, level crossings and stations. We run 20 of the UK's largest stations while all the others, over 2,500, are run by the country's train operating companies.

Usually, there are almost five million journeys made in the UK and over 600 freight trains run on the network. People depend on Britain's railway for their daily commute, to visit friends and loved ones and to get them home safe every day. Our role is to deliver a safe and reliable railway, so we carefully manage and deliver thousands of projects every year that form part of the multi-billion pound Railway Upgrade Plan, to grow and expand the nation's railway network to respond to the tremendous growth and demand the railway has experienced - a doubling of passenger journeys over the past 20 years.

Follow us on Twitter: @networkrail
Visit our online newsroom: www.networkrailmediacentre.co.uk